Cafodd dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn hofrennydd ar ôl damwain ger Tudweiliog ar benrhyn Ll
ŷn neithiwr.

Mae’n dioddef o anafiadau difrifol ar ôl i’w gar daro yn erbyn wal ar y B4417 ychydig cyn 6 o’r gloch gyda’r nos.

Bu’n rhaid i ddifoddwyr o Nefyn a Phwllheli ei dorri allan o’r car er mwyn ei ryddhau.

Dyw’r heddlu ddim wedi enwi’r dyn ond mae’r ymchwiliad i beth achosodd y ddamwain yn parhau.