Mae’r gwasanaethau tân ac achub yn parhau yn brysur wrth i danau gynnau ar dir eithinog ac mewn coedwigoedd ym mhob cwr o Gymru oherwydd y tywydd poeth.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cadarnhau mai ddoe, sef 19 Gorffennaf, oedd y diwrnod poethaf eleni ym mhob un o wledydd Prydain ac mai ym Mhorthmadog yr oedd hi boethaf, sef 31.4C.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De yn defnyddio hofrennydd y bore yma i geisio diffodd tân sydd wedi bod yn mud losgi drwy’r nos yn y goedwig uwchben Ffordd Caerdydd yn Abercynon.

Cafodd y diffoddwyr eu galw i’r tân, sydd wedi effeithio at 6 hectar o’r goedwig, ychydig cyn 6 o’r gloch neithiwr.

Mae diffoddwyr hefyd wrthi ar hyn o bryd yn ceisio diffodd tân sydd newydd gynnau ar fynydd Margam ger Port Talbot.

Does yna ddim peryg i bobl nag eiddo yn yr un o’r ddau dân.

Yn y gogledd, galwyd diffoddwyr i ddiffodd tannau oedd wedi cynnau ar dir eithinog ym Modorgan ac yn Amlwch neithiwr.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y gogledd yn credu bod y tanau wedi eu cynnau yn ddamweiniol.

Byddwch ofalus

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi galw ar bobl i fod yn ofalus “a defnyddio synnwyr cyffredin” wrth fwynhau’r tywydd poeth dros y Sul.

Roedd yna gynnydd o 9% yn nifer y galwadau wnaeth y gwasanaeth eu derbyn y penwythnos diwethaf ac mae’r Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol a Gwasanaethau Clinigol, Andrew Jenkins wedi gofyn i bobl fod yn fwy ystyrlon wrth ddeialu 999.

“Y peth olaf yr ydym am ei wneud yw atal pobl rhag mwynhau’r tywydd braf” meddai, “ond rhaid i ni ofyn i bawb ddefnyddio synnwyr cyffredin a pheidio â rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl.”

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe fydd yn parhau’n boeth dros y Sul ond yn poethi ac yn troi’n derfysglyd gyda chyfnodau o law tarannau yn ymledu o’r gogledd ddwyrain ganol yr wythnos nesaf.