Roedd enillydd gwobr Barn y Bobol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn awyddus i gyfuno’i ddau brif ddiddordeb – technoleg a’r gynghanedd.

Dywedodd Llion Jones wrth golwg360 ei fod e’n awyddus i arbrofi gyda dau ddull caeth o ysgrifennu, a bod y naill yn gweddu i’r llall.

Mae’r gyfrol Trydar Mewn Trawiadau yn gasgliad o gyfres o drydariadau gan Gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ers 2009.

Dywedodd: “Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i’r Gymraeg hawlio’i lle ym myd technoleg, ac yn gweld y gyfrol hon fel ffordd o gyfrannu at hynny.

“Ro’n i hefyd yn teimlo ei bod hi’n bwysig i’m hochr greadigol gael mynegiant.

“Mae trydar a’r gynghanedd, ill dau, yn ddulliau caeth o sgwennu ac wrth drydar, rydach chi’n delio hefo gofynion caeth.

“Mae sgwennu’r hyn rydach chi am ei ddweud mewn 140 o lythrennau ond yn un gofyn bach ychwanegol.

“Fel maen digwydd, mae Trydar yn addas iawn ar gyfer sgwennu englyn.”

Cafodd y gyfrol ei lansio ym Mangor fis Tachwedd diwethaf, ac mae’n cynnwys detholiad o’r trydariadau gorau.

“Hoffwn ddiolch i golwg360 am noddi’r gystadleuaeth.

“Mae’n hynod briodol mai cyfrwng digidol sy’n ei noddi.”

Cefndir Llion Jones

Mae’r Prifardd Llion Jones yn frodor o Abergele ac yn byw ym Mhenrhosgarnedd erbyn hyn.

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yn 2000.

Ef oedd sylfaenydd y wefan farddoniaeth ‘Yr Annedd’.

Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Caernarfon, ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Mae modd gweld ei holl drydariadau yma: https://twitter.com/LlionJ