Bydd pentref Portmeirion yn croesawu Côr y Brythoniaid eto eleni i berfformio yng Ngŵyl Rhif 6 ar ôl eu llwyddiant ysgubol y llynedd.

Ac mae’r côr wedi bod yn recordio fersiwn o ‘Good Times’ gan Chic – un o brif fandiau Gŵyl Rhif 6 fis Medi eleni.

Fe fydd eu fersiwn nhw o’r anthem disco i’w weld ar You Tube, ar ffilm yn hysbysebu’r ŵyl.

Dywedodd Meurig Jones o Bentref Portmeirion eu bod wedi gofyn i’r côr berfformio yn yr ŵyl oherwydd eu bod yn cynrychioli ‘rhywbeth gwahanol ac unigryw am Gymru’.

“Yn dilyn eu llwyddiant y llynedd a’r croeso a gafodd y côr gan y cyhoedd, rydym wedi gwahodd Côr y Brythoniaid yn ôl eleni a byddant yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr ŵyl,” meddai.

Y llynedd fe recordiodd y côr fersiwn wych o ‘Blue Monday’ gan New Order.

Dywedodd Dwyryd Williams, aelod o’r côr:

“Mae’r caneuon cyfoes yma yn dra gwahanol i’r hyn yr ydym yn arfer ei ganu ond roedd yn brofiad difyr tu hwnt a dw i’n siwr y bydd pobl yn ei mwynhau. Dw i’n credu bydd y gân allan o fewn y bythefnos nesaf.”

Bydd Côr y Brythoniaid yn perfformio yn yr ŵyl ynghyd â’r Manic Street Preachers a James Blake, dros benwythnos 14, 15 a 16 Medi eleni.