Roedd creu ei albym newydd yn sydyn ac yn hawdd, yn ôl y canwr Mr Huw. Mi fydd Cariad Afiach yn cael ei rhyddhau ar glustiau’r genedl ddydd Llun.

“Nath yr albym yma ddigwydd yn fast,” meddai Mr Huw wrth golwg360. “Nes i sgwennu pymtheg cân mewn pymtheg diwrnod ac aeth deg ohonyn nhw i mewn i’r albym a’r gweddill i’r nefoedd caneuon yn yr awyr.

“Dyma’r cyflyma dw i erioed wedi gwneud petha, ac oherwydd hynny, nath o ddigwydd yn fwy organig a doedd o ddim yn gymaint o deimlad o waith i’w orffan o.”

Mae Mr Huw yn chwarae pob offeryn ei hun wrth recordio a dywedodd bod sŵn yr albym yma’n wahanol i’w ddeunydd blaenorol.

“Dw i’n meddwl bod hon, fel albym, yn gweithio’n well na’r ddwy arall achos mae hi’n llifo’n well i’r glust. Mae o’n symlach achos wnes i ddefnyddio llai o offerynnau a mae na deimlad mwy amrwd a thywyll iddi hefyd.”

Taith

A gyda’r albwm yn cael ei lawnsio ddydd Llun, bydd Mr Huw’n brysur yn teithio Cymru dros yr haf gyda band newydd.

“Mae genno ni llwyth o gigs yn dod fyny felly mi fydd Mr Huw yn eich ardal chi yn fuan.

“Hefyd, dim ond tri ohonan ni sydd yn y band rwan ac mae hynny’n newid y sŵn byw i fod fwy fel yr albwm newydd felly dwi’n teimlo’n eitha cyffores am yr holl beth.”