Mae’r nifer o deuluoedd cefn gwlad sy’n mynd ar ofyn elusen am help ariannol wedi dyblu.

Yn ystod chew mis cyntaf y llynedd aeth 70 o deuluoedd amaethyddol at y Sefydliad Lles Amaethyddol (Royal Agricultural Benevolent Institute), a chael £121,000 yn gymorth.

Ar gyfer yr un cyfnod eleni fe roddodd yr elusen £218,000 o gymorth i 170 o deuluoedd.

Mae gaeaf oerach na’r arfer a chostau cynhyrchu uwch wedi eu nodi yn resymau dros y cynnydd yn y galw am gymorth.

Bu eira annisgwyl ym misoedd Mawrth ac Ebrill, a’r gaeaf yn ymestyn hyd at Fehefin.