Mae’r heddlu ym Mhacistan wedi arestio cogydd sy’n cael ei amau o wenwyno a lladd 22 o bobl, mewn ffrae rhwng dwy gangen o’r un teulu.

Yn ôl yr heddlu bu dial wedi i Arsal Khan Khichi golli etholiad rhanbarthol i’w gefnder Jehanzeb Khan Khichi.

Cyhuddir Khichi o dalu 50,000 rupee (£330) i gogydd wenwyno bwyd wnaeth 50 yn sâl, a bu farw 22 ohonyn nhw.

Mae’r cogydd wedi cyfaddef gwenwyno’r bwyd, yn ôl yr heddlu, a Khichi wedi ffoi.