Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dynes 59 mlwydd oed y daethpwyd o hyd i’w chorff mewn tŷ yn ardal Sandfields, Port Talbot.

Cafodd swyddogion eu galw i’r eiddo yn Llanelwy Drive ychydig cyn 9:25yb bore Mercher.

Mae’r heddlu yn trin marwolaeth Marlene Keogh, a oedd yn byw ar ben ei hun, fel un anesboniadwy nes daw canlyniadau’r post mortem.

Mae swyddogion yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ yn yr ardal. Mae ystafell ymchwilio wedi agor  yng Ngorsaf Heddlu Sandfields.

Mae teulu Marlene Keogh wedi cael eu hysbysu ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan swyddog cyswllt teulu.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley: “Ar hyn o bryd, rydym yn cadw meddwl agored o ran amgylchiadau marwolaeth Marlene Keogh.

“Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd neu a glywodd oddi wrthi rhwng 4.15 prynhawn dydd Mawrth a 9:25 bore ddydd Mercher pan ddaethpwyd o hyd i’w chorff.

“Mae hon yn hen gymuned glos yn ardal Sandfields ac rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw un yn ymweld â’r tŷ neu a sylwodd ar unrhyw beth anarferol i gysylltu â’r heddlu.”

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r Ystafell Ymchwiliad ar 01639 889772 neu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.