Carl Mills
Mae dyn a oedd wedi rhoi cartref ei gariad ar dan, gan ladd tair cenhedlaeth o’r un teulu, wedi ei gael yn euog o’u llofruddio.

Bu farw Kayleigh Buckley, 17, ei merch chwe mis oed, Kimberley a mam Kayleigh,  Kim, 46 mewn tân yn eu cartref yng Nghwmbrân.

Roedd Carl Mills, 28 oed, wedi gwadu llofruddio’r teulu yn eu cartref yng Nghwmbrân ar Fedi 18 y llynedd.

Cafodd ei ddedfrydu i 30 mlynedd dan glo.

Fe glywodd y llys fod Carl Mills, a oedd yn dad i Kimberley ac yn byw mewn pabell o flaen y tŷ, yn genfigennus o’r sylw roedd Kayleigh Buckley yn rhoi i’w merch. Roedd wedi bygwth llosgi’r tŷ i’r llawr mewn negeseuon testun at Kayleigh Buckley.

Roedd Carl Mills wedi gwadu’r llofruddiaethau, gan honni ei fod yn yfed mewn cae cyfagos pan ddechreuodd y tân a’i fod yn caru Kayleigh ac yn bwriadu cael dyfodol gyda hi a’u merch Kimberley.

Roedd Mills yn argyhoeddedig fod Kayleigh y tu mewn i’r tŷ gyda dyn arall.

Lledodd y fflamau’n gyflym fel nad oedd modd i’r teulu ddianc.

Cafodd Kayleigh ei gweld trwy ffenest yn y llofft yn galw am gymorth.

Roedd plentyn y ddau, Kimberley, gafodd ei eni’n gynnar, newydd ddychwelyd adref o’r ysbyty y diwrnod hwnnw.

Doedd dim hawl gan Mills i weld y plentyn heb oruchwyliaeth.

Wrth i Mills glywed y rheithfarn, safodd yn stond, heb ddangos emosiwn.


Kayleigh Buckley, 17, a'i merch Kimberley
Datganiad y teulu a’r heddlu

Cafodd datganiad y teulu ei ddarllen yn y llys gan yr erlynydd, Gregory Bull QC.

Mewn datganiad ar ran y teulu gan Heddlu Gwent, dywedodd llefarydd: “Heddiw, rydym yn teimlo fel pe bai cyfiawnder.

“Mae Carl Mills yn dechrau ar ddedfryd oes am dair llofruddiaeth ond i ni, deulu a ffrindiau Kim, Kayleigh a Kimberley, dechreuodd ein dedfryd oes ni ar 18 Medi y llynedd pan gafodd tri o bobol ddiniwedd a phrydferth eu cymryd oddi wrthym.

“Dydy ein bywydau ni byth yn mynd i fod yr un fath eto, ond gofynnwn am lonydd i ddod i delerau gyda’n colledion.

“Hoffem ddiolch i’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y gwasanaeth tân a phawb a helpodd i ddod â’r achos hwn gerbron llys ac i gael Carl Mills yn euog.”

Gwasanaeth Erlyn y Goron

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Er ei amharodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd, heddiw fe fu’n rhaid i Mills wynebu’r hyn a wnaeth e.

“Ond tra ein bod ni’n croesawu’r rheithfarn heddiw, rhaid i ni gydnabod nad yw, ac na all ddod â Kim, Kayleigh na Kimberly yn ôl.

“Nid yw chwaith yn dileu poen na dioddefaint y sawl sy’n agos iddyn nhw.

“Mae ein meddyliau ni gyda nhw.”

Diolchodd yr heddlu i’r teulu am eu “hamynedd a’u hurddas” trwy gydol yr ymchwiliad, ac i’r gymuned ehangach am eu cefnogaeth.

Bydd yn rhaid i Mills dreulio o leiaf 30 o flynyddoedd dan glo.