Kayleigh Buckley, 17, a'i merch Kimberley
Mae rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd wedi dechrau  ystyried ei ddyfarniad yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio tair cenhedlaeth o’r un teulu.

Bu farw Kayleigh Buckley, 17, ei merch chwe mis oed, Kimberley a mam Kayleigh,  Kim, 46 mewn tân eu cartref yng Nghwmbrân.

Mae Carl Mills, 28 oed, yn gwadu llofruddio’r teulu yn eu cartref yng Nghwmbrân ar Fedi 18 y llynedd.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd fod cymdogion Kayleigh Buckley wedi ceisio achub y teulu wrth i’r tân, a gychwynnodd yn y cyntedd, ymledu i fyny’r grisiau gan atal y teulu rhag dianc.

Fe glywodd y llys fod Carl Mills, a oedd yn dad i Kimberley ac yn byw mewn pabell o flaen y tŷ, yn genfigennus o’r sylw roedd Kayleigh Buckley yn rhoi i’w merch. Roedd wedi bygwth llosgi’r tŷ i’r llawr mewn negeseuon testun at Kayleigh Buckley.

Mae Carl Mills yn gwadu’r llofruddiaethau, gan honni ei fod yn yfed mewn cae cyfagos pan ddechreuodd y tân a’i fod yn caru Kayleigh ac yn bwriadu cael dyfodol gyda hi a’u merch Kimberley.

Ddoe, dywedodd y barnwr y byddai’n ystyried dyfarniad o ddynladdiad.