Mae’r awdurdodau yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o’u hiechyd wrth i’r cyfnod o dywydd poeth barhau –  yr hiraf ers 2006.

Mae disgwyl i’r tymheredd yng Nghymru gyrraedd 27C heddiw yn ardaloedd y de, tair gradd yn is na Llundain a’r De Ddwyrain lle mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd ‘lefel tri’. Mae’r rhybudd yn cael ei gyhoeddi pan fo’r gwres yn debygol o achosi problemau iechyd i blant, pobl hŷn a phobl sydd â phroblemau iechyd difrifol.

Ond nid yw’r rhagolygon yn darogan y bydd y tymheredd yn cyrraedd 30C yng Nghymru heddiw.

Mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd 32 C mewn rhannau o Loegr heddiw.

Gwasanaethau brys dan bwysau

O ganlyniad i’r tywydd poeth mae gwasanaethau brys yn rhai o ysbytai Cymru o dan bwysau aruthrol gyda chleifion yn dioddef effeithiau’r gwres, llosgiadau ac anafiadau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau pan mae’r tywydd yn boeth.

Mae adrannau brys yn ysbytai’r gogledd gan gynnwys Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd wedi cyhoeddi cyngor ar-lein ac yn nodi eu bod wedi gweld cynnydd yn  nifer y bobl  sy’n dioddef llosgiadau haul.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus. Dywedodd: “Does dim modd gor-bwysleisio pa mor bwysig yw yfed digon o ddŵr oer yn hytrach nag alcohol sy’n gallu gwneud ichi fod angen mwy o ddŵr. Defnyddiwch eli haul, a gwisgwch ddillad ysgafn a het. Dylid osgoi bod yn yr haul yn rhy hir, yn enwedig rhwng 11yb a 3yh pan mae’r haul ar ei gryfaf.”

Peryglon  cronfeydd dŵr

Yn dilyn nifer o farwolaethau mewn llynnoedd a chronfeydd dŵr dros y dyddiau diwethaf, mae’r gwasanaethau brys yn rhybuddio pobl am y peryglon o nofio mewn cronfeydd dwr.

Dywedodd Dewi Rose o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru:  “Mae mwy o bobl yn nofio mewn dŵr agored oherwydd y tywydd poeth ond mae nofio mewn cronfeydd dŵr neu unrhyw ddŵr agored yn beryglus ac yn risg i fywydau.”

Dywedodd Pete Perry o Ddŵr Cymru bod cronfeydd yn llefydd gwych i fwynhau gweithgareddau sydd wedi eu trefnu ond bod pobl yn ildio i’r demtasiwn i nofio yn y dŵr.

“Er eu bod nhw’n ymddangos yn llefydd gwych i oeri maen nhw’n llawn o beryglon na allwch chi eu gweld, gyda dŵr rhewllyd mewn mannau a cherrynt cryf. Dyna pam mae arwyddion ar y safleoedd yma yn rhybuddio pobl am y peryglon.”