Bydd gweithwyr swyddfeydd post ar hyd a lled y wlad yn streicio heddiw dros anghydfod ynglŷn â swyddi, cyflogau a dyfodol y gwasanaeth.
Mae Swyddfa’r Post yn bwriadu cau 75 o swyddfeydd post y Goron, sydd gyfwerth â 20% o’r rhwydwaith gan fygwth 1,500 o swyddi.
Mae’r rhain yn cynnwys swyddfeydd yn Aberystwyth, Caergybi a Llangefni.
Bydd y streicio yn effeithio oddeutu 4,000 o weithwyr yn 372 o swyddfeydd post y Goron gan gynnwys Aberystwyth, Caernarfon a Chaerdydd.
Fe bledleisiodd y gweithwyr o blaid streicio ac mae’r bygythiadau i ddyfodol y swyddfeydd wedi wynebu gwrthwynebiad ffyrnig ar draws y wlad gyda miloedd yn arwyddo deisebau i wrthod y cynlluniau.
‘Safiad cadarn’
Dywedodd Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Gweithwyr Cyfathrebu (CWU), Dave Ward fod aelodau’r undeb yn gwneud safiad cadarn yn erbyn y cynlluniau.
“Mae’n rhaid i ni herio’r cynlluniau i gau swyddfeydd post, torri swyddi a chwtogi gwasanaethau. Mae’n hen bryd i’r llywodraeth sefyll i fyny dros y gwasanaeth pwysig yma, gyda miloedd o etholwyr yn arwyddo deisebau yn erbyn y cynlluniau.”
Yn Llundain heddiw, bydd y cyn-Ysgrifennydd Cartref Alan Johnson AS, a gychwynodd ei yrfa fel gweithiwr post, yn annerch rali yn erbyn y cynlluniau i newid y gwasanaeth post.