Bydd Llywodraeth Cymru yn ail-edrych ar frand y Gwir Flas
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies wedi penderfynu dirwyn y strategaeth fwyd i ben.

Dywed nad yw’r strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’ bellach yn “ateb y diben”, ac y bydd cynllun newydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Bydd Alun Davies yn tynnu ar gyngor ac argymhellion y Panel Bwyd a Ffermio wrth lunio’r cynllun newydd.

Dywedodd: “Mae bwyd yn bwysig i ni fel cenedl a bydd ein perthynas â bwyd yn effeithio ar ein polisïau addysg, iechyd a chymdeithasol yn ogystal ag ar ein polisi economaidd.

“Rwy’n ymwybodol iawn bod angen i ni barhau i helpu’r sector i dyfu ac yn hynny o beth, mae’n bwysig dathlu a hyrwyddo rhagoriaeth bwyd a diod Cymru, yma yng Nghymru a thu hwnt.

Gwir Flas

Gallai’r cynllun newydd olygu na fydd brand y Gwir Flas yn parhau.

Cafodd ei sefydlu yn 2002, ac fe fu gwobrau bob blwyddyn o fewn y diwydiant “i godi ymwybyddiaeth am arloesedd a rhagoriaeth” y sector.

“Mae mwy na 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno’r Gwir Flas; mae’r diwydiant wedi datblygu a thyfu’n sylweddol ers hynny ac mae’n bryd ailedrych ar y Gwir Flas i weld a yw’n dal i ateb gofynion y defnyddiwr a’r diwydiant bwyd.

“Wrth frandio, mae’n hynod bwysig dangos bod y bwyd a’r ddiod yn dod o Gymru a dylai hynny fod yn glir ym meddwl y defnyddiwr.”

Ychwanegodd Alun Davies nad yw’r Gwir Flas yn ddigonol fel cynllun bellach, ac na fydd gwobrau’n cael eu cynnal eleni.

Serch hynny, fe fydd y brand ‘Bwyd a Diod Cymru’ yn parhau.

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn yr hydref.

‘Tair blynedd o wastraff’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: “Mae’n iawn i’r Gweinidog ddisgrifio strategaeth ei lywodraeth ei hun fel un nad yw’n ‘ateb y diben’ ond unwaith eto, anallu ei Lywodraeth Lafur Cymru ei hun sy’n gadael pawb i lawr.

“Cafodd y strategaeth fwyd ei lansio nôl yn 2010.

“Ers hynny, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi parhau i ddal y Llywodraeth i gyfrif, gan ofyn am ddyddiad lansio y bu hir aros amdano.

“Fis diwethaf, fe ddywedwyd wrthym nad oedd y cynllun cyflwyno wedi cael ei benderfynu eto.

“Nawr, mae Llywodraeth Cymru’n dweud nad yw’n ateb y diben a’i fod e wedi’i ddileu.

“Dyna dair blynedd o wastraff.

“Mae’r anallu hwn wir yn annioddefol i fi ac i gynhyrchwyr bwyd Cymru.

“Roedd y strategaeth hon yn bwysig dros ben i Gymru wledig.

“Mae gennym ni gynhyrchwyr bwyd anhygoel yma yng Nghymru sydd angen ychydig o gefnogaeth i flodeuo.

“Mae angen i’r Gweinidog beidio siarad am strategaethau dychmygol a dechrau cyflwyno ar gyfer pobol Cymru.”