Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn cronfa ddŵr ger Aberhonddu dros y penwythnos.

Cafodd corff Daniel Colin Clemo, 24 oed, o ardal Caerffili ei ddarganfod yng nghronfa Cantref ddydd Sul yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi mynd ar goll.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r gronfa tua 2.45 brynhawn Sul ac fe gafodd ffyrdd yr A470 ger Merthyr a chyffordd y A4089 eu cau fel rhan o’r ymchwiliad.

Mae’n debyg nad yw ei farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.

Mewn digwyddiad arall, daeth yr heddlu o hyd i gorff dyn mewn cronfa ddŵr ym Mhontsticill ger y Bannau ar ôl derbyn adroddiad fod dyn 52 oed wedi methu dychwelyd adref.

Nid yw’r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus a does dim gwybodaeth bellach ynglŷn â’r dyn ar hyn o bryd.