Fe fydd athrawon sy’n aelodau o undebau’r NUT a NASUWT yn mynd ar streic yn yr hydref.
Bydd cyfres o streiciau rhanbarthol yn cael eu cynnal cyn streic genedlaethol rhwng Medi 30 a Hydref 14, mewn protest dros gyflogau, pensiynau a llwyth gwaith.
Mae Llywodraeth Prydain wedi beirniadu’r penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran undeb NASUWT: “Mae angen i’r Ysgrifennydd Gwladol gymryd pryderon dwys athrawon ac arweinwyr ysgolion o ddifrif.
“Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cael y cyfle i osgoi rhagor o weithredu cenedlaethol drwy streicio trwy ddangos ei fod e’n barod i ymdrin o ddifri â’r materion rydyn ni wedi eu cyflwyno iddo.”
Yn ôl cynlluniau newydd Llywodraeth Prydain, fe fydd cyflogau athrawon yn seiliedig ar berfformiad yn yr ystafell ddosbarth ac mae’r strwythur pensiynau’n debygol o newid hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg: “Rydyn ni’n siomedig iawn bod yr NUT ac NASUWT wedi cyhoeddi eu bod nhw’n gweithredu ymhellach, rhywbeth gwnaeth llai na chwarter yr athrawon bleidleisio o’i blaid.”