Mae un o gyflwynwyr tywydd S4C wedi dweud y bydd y tywydd braf yn parhau dros y penwythnos.

Dywedodd Yvonne Evans mai gwasgedd uchel sy’n gyfrifol am y tywydd hafaidd.

“Lleoliad y jetlif i’r gogledd o Brydain sydd yn gyfrifol am y tywydd sefydlog a chynnes iawn,” meddai Yvonne Evans wrth Golwg360.

“Mae’r jetlif wedi galluogi i wasgedd uchel o gyfeiriad Ynysoedd yr Azores ddatblygu a rheoli ein tywydd.  Dydd Sul a Llun oedd diwrnodau twyma’r flwyddyn hyd yn hyn yng Nghymru, gyda’r tymheredd ar ei uchaf yn 28°C/82°F.

“Mae’r gwasgedd uchel sydd yn gyfrifol am y tywydd hafaidd yn mynd i barhau am weddill yr wythnos a dros y penwythnos.

“Bydd mwy o dywydd sych, braf a chynnes iawn ar ein cyfer ni, dim ond ambell beth bach yn newid o ddydd i ddydd.  Heddiw bydd digonedd o heulwen ar hyd y wlad, sych a’r gwynt yn ysgafn. Teimlo’n boeth a’r tymheredd ar ei uchaf tua 27°C/81°F.”

Yn ôl Yvonne, bydd y tywydd yn newid yfory  er y bydd hi’n parhau i fod yn boeth ac fe fydd yr heulwen yn dychwelyd erbyn y penwythnos – newyddion da i’r holl ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru gan gynnwys Gŵyl Gartholwg yng Nghaerffili, Gŵyl Wakestock ym Mhen Llŷn a Gŵyl y Gwach ym Mhontardawe.

“Daw ffrynt oer ac ambell gawod o law, ac ychydig mwy o gymylau ddydd Mercher a’r tymheredd tua gradd yn is. Bydd hi ddim yn teimlo mor gynnes ddydd Iau, er dal yn ddymunol am fis Gorffennaf gyda’r tymheredd ar ei uchaf tua 24°C/75°F.

“Bydd hi’n ddiwrnod poethach ddydd Gwener  gyda digonedd o heulwen a’r tymheredd yn codi, ar ei uchaf tua 27°C/81°F.

“Fe wneith hi barhau’n sefydlog dros y penwythnos, er mae ambell gawod yn bosib prynhawn ddydd Sadwrn ac, ar hyn o bryd mae’n argoeli y bydd mwy o dywydd sefydlog yr wythnos nesaf.

“Os rydych chi’n hoff iawn o’r tywydd hafaidd,  gwnewch y mwya’ ohono tra mae’r haul yn gwenu! Bydd yr eli haul yn ddefnyddiol ac mae lefel y paill yn uchel iawn.”