Mae Cadeirydd y Blaid Lafur ar Ynys Môn wedi dweud wrth golwg360 na fydd yn ymddiswyddo o’r Blaid Lafur.
Wythnos yn ôl roedd John Chorlton wedi dweud ei fod yn ystyried gadael y Blaid Lafur, a’i fod wedi ei drin yn warthus.
Roedd wedi methu yn ei ymdrechion i gyrraedd rhestr fer y blaid ar gyfer isetholiad Môn.
“Dw i’n bwriadu gwneud dim ar y funud,” meddai John Chorlton. “Does dim pwynt torri cwyn ac ymddiswyddo ar ôl gwneud cymaint dros y blaid ers yr holl flynyddoedd, er fy mod yn credu eu bod wedi fy ngham-drin.”
Ychwanegodd ei fod yn bwriadu gwneud ychydig o waith ymgyrchu lleol ar gyfer yr isetholiad.
“Fel Cadeirydd Sir y Blaid Lafur, mae’n ddyletswydd arnaf i ymgyrchu ond byddaf yn canolbwyntio ar fy nhalgylch fy hun y tro hwn.”
Tal Michael yw ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer yr isetholiad, ac mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno enwebiadau yn cau amser cinio.