Roedd Onllwyn Brace yn “fachan hyfryd, yn onest ac yn deg i bawb” yn ôl un o gyn-gapteiniaid Cymru oedd yn ei adnabod yn iawn.

Bu Onllwyn Brace yn gapten ar ei wlad ac yn Bennaeth Chwaraeon BBC Cymru.

Cynrychiolodd ei genedl yn safle’r mewnwr naw o weithiau, a bu’n gapten am ddwy gêm.

Enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr yn Twickenham yn 1956.

Ar lefel clwb, chwaraeodd dros Aberafan, Casnewydd a Llanelli, lle bu’n gapten am ddau dymor.

Yn dilyn ei ymddeoliad o’r byd rygbi fel chwaraewr, cafodd ei benodi’n Bennaeth Chwaraeon BBC Cymru gan olynu’r sylwebydd Cliff Morgan.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi iddo ar wefan Trydar y bore ma.

Dywedodd Clwb Rygbi Llanelli: “Yn drist o glywed y newyddion am farwolaeth Onllwyn Brace, cyn-gapten @LlanelliRFC ac @UndebRygbiCymru, hefyd Pennaeth @BBCSportWalesTV”.

Dywedodd sylwebydd criced BBC Cymru, Edward Bevan ei fod yn “ŵr bonheddig”.

Meddai’r sylwebydd a’r cyflwynydd, John Hardy: “Trist colli Onllwyn Brace. Ysbrydolodd arlwy chwaraeon cynnar S4C a Radio Cymru ac roedd yn gefn cynnar i nifer o ddarlledwyr.”

Onllwyn y chwaraewr

Dywedodd Clive Rowlands wrth golwg360: “Roedd Onllwyn yn un o’n ffefrynne i ar hyd y blynydde.

“Ges i fy siawns gynta i i chwarae rygbi yn y gynghrair ucha trwy Onllwyn.

“Roedd e’n gapten ar y Scarlets yn y 50au a phan oedd e ddim yn chwarae, fi oedd yn chwarae wedyn.

“Dysgodd e shwd gyment i fi – oedd dawn gydag e i redeg a chico.

“I ddweud y gwir, Onllwyn ddysgodd i fi shwt i gico yn y bocs – dw i wedi’i boeni fe am hynna dros y blynydde!

“Ond yn fwy na dim, oedd e’n fachan hyfryd, yn onest ac yn deg i bawb.”

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Fel Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales yn y 1970au a’r 1980au, chwaraeodd Onllwyn ran flaenllaw yn llunio ein darllediadau chwaraeon ar adeg pan welwyd datblygiadau sylweddol mewn darlledu byw.

“Bydd atgofion cynnes ohono fel arweinydd diwyd ac arloesol, yn gosod y safonau uchaf, ac yn un a oedd yn agos at galon ei gydweithwyr. Doedd arno ddim ofn newid – gan arwain o’r blaen ac ysbrydoli ei gydweithwyr, yn union fel y gwnaeth ar y cae rygbi.”