Nid oedd y BBC wedi ateb cais gan Aelod Seneddol am wybodaeth ynglŷn â faint o newyddiadurwyr a staff oedd yn teithio gyda thaith rygbi’r Llewod i Awstralia, clywodd pwyllgor heddiw.

Roedd Alun Cairns, AS Ceidwadol Bro Morgannwg, wedi gofyn i’r BBC ddatgelu’r manylion o dan gais rhyddid gwybodaeth ond mae’r gorfforaeth wedi gwrthod ateb, gan nad yw’r cais o fewn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae Alun Cairns, sy’n aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wedi galw ar y BBC i fod yn fwy tryloyw ac agored, gan ddweud bod angen newid diwylliannol yn y gorfforaeth.

Dywedodd Arweinydd  Tŷ’r Cyffredin Andrew Lansley y bydd ASau yn ystyried sylwadau’r pwyllgor gyda Chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC yr Arglwydd Patten, sy’n gyfrifol am sicrhau bod newidiadau diwylliannol yn cael eu gweithredu.

Gofynnodd Alun Cairns wrth Andrew Lansley yn ystod sesiwn holi yn y Senedd: “Fe fyddwn i wedi gobeithio bod y sgandalau dros y blynyddoedd diwethaf a hyd yn oed yn yr wythnosau diwethaf wedi eu galluogi i fod yn fwy tryloyw ac agored gyda’u gwylwyr a’r rhai sy’n talu’r drwydded.

“Fe wnes i gais rhyddid gwybodaeth yn ddiweddar i ofyn faint o newyddiadurwyr a staff oedd yn teithio gyda’r Llewod yn Awstralia ac fe wnaethon nhw wrthod ateb gan ei fod y tu hwnt i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

“Onid yw hyn yn esiampl wael o sut mae’r BBC yn gweithio?”

Atebodd Andrew Lansley: “Rwy’n credu y bydd llawer o ASau yn cydweld a’r hyn rydych yn ei ddweud.”

Fe gyfeiriodd at adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio oedd yn feirniadol o’r taliadau a roddwyd i rai o uwch swyddogion y BBC pan oedan nhw’n gadael eu swyddi. Dros y tair blynedd diwethaf mae’r BBC wedi talu £25 miliwn i 150 o uwch reolwyr oedd yn gadael eu swyddi – roedd chwarter o’r rheiny wedi derbyn mwy na’r hyn oedd yn ddyledus iddyn nhw.

Dywedodd Andrew Lansley y bydd pobl nawr yn edrych i weld a fydd Ymddiriedolaeth y BBC, sydd a’r cyfrifoldeb  o sicrhau bod newidiadau’n cael eu gwneud yn y BBC, yn cael eu gweithredu.