Y Gynhadledd Fawr
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw am ffordd newydd o ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg ym mhob maes polisi yng Nghymru.

“Mae angen i ni ddatblygu methodoleg i ystyried y Gymraeg wrth ddatblygu unrhyw elfen o bolisi,” meddai Meri Huws wrth y Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth.

Fe ddylai hynny fod wedi’i seilio’n gadarn ar dystiolaeth ynglŷn ag effaith polisïau “yn eu cyfanrwydd” ar yr iaith, meddai mewn sesiwn holi ac ateb.

Iaith a thai – ‘cyngor yn yr hydref’

Roedd hi’n ymateb i gwestiwn am gyhoeddi cyngor y Llywodraeth am effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg.

Fe roddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, addewid y byddai hwnnw – nodyn TAN 20 – yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Ond fe fethodd â rhoi addewid y byddai disgwyl i gynghorau sir ailystyried polisïau cynllunio lleol sy’n caniatáu codi cannoedd o dai newydd mewn ardaloedd fel Bodelwyddan yn Sir Ddinbych.

Yr un hawl ag i ystlumod

Fe alwodd arweinydd Cyngor Gwynedd am fwy o hawl i ystyried y Gymraeg wrth drafod ceisiadau cynllunio unigol, yn debyg i’r ystyriaeth sy’n cael ei roi i faterion amgylcheddol fel presenoldeb ystlumod.

“Rydan ni’n gorfod ystyried pethau fel yna ond dydi’r Gymraeg ddim ar y radar hyd yn oed,” meddai Dyfed Edwards.