Mohammed Morsi
Mae uchel farnwr Goruchel Lys Yr Aifft wedi tyngw lle fel Arlywydd dros dro y wlad.

Cafodd Mohammed Morsi ei ddisodli a’i arestio gan fyddin y wlad ddoe.

Mae e bellach wedi’i gadw’n garcharor yn ei gartref.

Cafodd y seremoni i urddo Adly Mansour ei darlledu ar deledu’r wlad y bore ma.

Fe fydd e’n arwain y wlad nes bod etholiad yn cael ei chynnal i ethol Arlywydd parhaol newydd.

Does dim sicrwydd eto pryd fydd y bleidlais honno’n cael ei chynnal.

Bu Mohammed Morsi mewn grym am flwyddyn yn unig, wedi iddo ddisodli Hosni Mubarak.

Bu cryn bwysau ar Morsi i ymddiswyddo yn dilyn protestiadau cenedlaethol ledled Yr Aifft.