Huw Lewis
Does dim cynlluniau gan Lywodraeth Cymru i newid patrwm gwyliau haf mewn ysgolion, yn ôl y Gweinidog Addysg, Huw Lewis.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Prydain, Michael Gove ddoe y gallai ysgolion gael y grym i ddewis pryd fydd eu tymhorau ysgol yn dechrau a gorffen.
Fe allai hynny olygu llai o wyliau haf mewn rhai ysgolion.
Dywedodd Gove wythnos yn ôl fod angen diwygio gwyliau’r ysgol a bod angen cwtogi ar wyliau’r plant.
Pe bai’r cynlluniau’n dod i rym, fe allen nhw gael eu gweithredu erbyn 2015.
Mae nifer o undebau addysg ac athrawon yn gwrthwynebu’r cynlluniau, gan ddweud bod y tymhorau’n rhy hir eisoes.
‘Anawsterau i rieni a gofalwyr’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg360: “Mae addysg yng Nghymru wedi’i datganoli a dyma enghraifft o bolisi Cymreig yn mynd yn groes i bolisi Lloegr.
“Gallai galluogi pob ysgol i osod ei dyddiadau tymor ei hun arwain at ragor fyth o anawsterau i rieni a gofalwyr wrth ddod o hyd i ofal plant ychwanegol a’i ariannu.
“Does gennym ni ddim cynlluniau ar hyn o bryd i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio grymoedd arfaethedig Gweinidogion Cymru i newid patrwm y flwyddyn ysgol.”
Mae mesur yn cael ei gyflwyno yn y Cynulliad heddiw er mwyn i Gymru gael gosod yr un cyfnodau gwyliau i bob ysgol yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth Cymru bod amrywio gwyliau o un awdurdod i’r llall yn arwain at broblemau gofal plant.
Sicrhau llwyddiant y cynllun newydd hwn yw un o ddyletswyddau cyntaf y Gweinidog Addysg newydd, Huw Lewis.
Cafodd ei benodi’r wythnos diwethaf yn dilyn ymddiswyddiad Leighton Andrews.