Nelson Mandela
Mae cyfreithiwr o Dde Affrica sy’n byw yng Nghymru’n mynd ati i gofnodi hanes y cyswllt rhwng Cymru a’r protestiadau gwrth-apartheid yn Ne Affrica.
Mae Hanif Bhamjee, fu’n byw yng Nghymru ers 1972, wedi cael ei gomisiynu gan y cyhoeddwr Seren i ysgrifennu’r llyfr.
Fe fydd yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.
Daw’r cyhoeddiad yn ystod cyfnod pan fo cryn ansicrwydd am iechyd cyn-Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela.
Mae Mandela yn ddifrifol wael yn yr ysbyty, ar ôl dioddef o haint i’w ysgyfaint.
Treuliodd ddegawdau dan glo ar Ynys Robben yn Ne Affrica am ei ran yn yr ymgyrch gwrth-apartheid, cyn dod yn Arlywydd y wlad ar ôl cael ei ryddhau.
Bydd y llyfr yn adrodd hanes nifer o brotestiadau gwrth-apartheid yng Nghymru, gan gynnwys protest fawr yn Abertawe yn 1969.
Bydd Hanif Bhamjee, sylfaenydd y mudiad gwrth-apartheid yng Nghymru, hefyd yn nodi’r cyswllt rhwng teithiau chwaraeon a’r mudiad apartheid, a gwaharddiad De Affrica o’r byd chwaraeon am nifer o ddegawdau.
Mae disgwyl iddo gyfeirio hefyd at nifer o deithiau a chyfarfodydd gwleidyddol anghyfreithlon yn ystod y cyfnod pan oedd rhannau helaeth o’r byd yn gwrthod mynd i Dde Affrica.
Mae’r llyfr hefyd yn sôn am agweddau’r sefydliadau Cymreig tuag at apartheid, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, y Cyngor Celfyddydau, Eisteddfod Llangollen a nifer o gorau meibion.