Y Gyfnewidfa Lo
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi eu bwriad i greu canolfan fusnes ar safle’r Gyfnewidfa Lo.

Cafodd yr adeilad ei gau ar frys yr wythnos diwethaf yn dilyn pryderon am ddiogelwch y safle.

Yn ôl adroddiadau, gallai’r safle ar ei newydd wedd gynnwys neuadd fawr ar gyfer 1,300 o bobol, sgwâr cyhoeddus, swyddfeydd a chanolfan arloesedd.

Cafodd yr adeilad ei godi rhwng 1886 ac 1895, a’i ailwampio yn 1914.

Caeodd yr adeilad yn 1961 ar ôl i’r diwydiant glo ddechrau arafu.

Mae disgwyl i’r gwaith cynnal a chadw ddechrau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Busnes a’r Economi Leol, Russell Goodway: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar gynlluniau ers cryn amser ac mae’n anffodus ein bod ni wedi cyrraedd y cam hwn cyn ein bod ni’n gallu symud y cynlluniau ymlaen.

“Diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth ac nid oes dewis arall gennym ond cau rhannau o’r Gyfnewidfa Lo a sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.

“Cawsom wybod gan y perchnogion fod yr adeilad yn dadfeilio a chomisiynwyd adroddiad strwythurol er mwyn cael dealltwriaeth glir o gyflwr presennol yr adeilad.

“Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod strwythur rhannau o’r Gyfnewidfa Lo yn anniogel a bod angen gwaith ategu brys i sicrhau bod y rhannau hyn o’r adeilad, a’r ardal gyfagos, yn ddiogel.

“Fel Cyngor mae dyletswydd arnom i ofalu am breswylwyr, busnesau a’r cyhoedd, a dyna pam rydym yn gweithredu nawr.

“Yn ddiau’r Gyfnewidfa Lo yw un o’r adeiladau pwysicaf yng Nghymru.

“Fel canolbwynt y fasnach lo rhyngwladol a chymuned busnes Caerdydd am 75 mlynedd, roedd y Gyfnewidfa Lo yn rhan ganolog o ddatblygiad Caerdydd, ac mae’r adeilad yr un mor bwysig i’r ddinas â’r Castell neu Neuadd y Ddinas.”

Mae’r Cyngor wedi dechrau’r broses o ddod o hyd i leoliadau eraill ar gyfer digwyddiadau tra bod y gwaith yn parhau.