Siom oedd i’w weld ar wynebau blinedig y Llewod wrth iddyn nhw golli o un pwynt  yn unig  i Awstralia ym Melbourne.

Ym munud ola’r gêm, cafodd Leigh Halfpenny gyfle i ennill y gêm i’r Llewod ar ôl iddyn nhw ennill cic cosb. Ond ni lwyddodd y tro hwn ac felly, bydd yn rhaid iddyn nhw ddisgwyl hyd at yr wythnos nesaf yn Sydney i weld os allan nhw ennill cyfres yn Awstralia.

Mi gafodd capten y Llewod, Sam Warburton, gêm wych, ond roedd yn rhaid iddo adael y cae ar ôl 66 munud ar ôl iddo gael ei anafu.

Dywedodd Sam y bydd y gêm brawf olaf yn un hynod o agos. Roedd yn croesi ei fysedd y byddai ei anaf wedi gwella erbyn hynny, meddai.

Tybed a fydd Mike Phillips a Jamie Roberts yn ôl yn y tîm ar gyfer y gêm brawf olaf?