Mae’r cyffro yn cynyddu ym Melbourne wrth i bawb edrych ymlaen at y frwydr rhwng y Llewod ac Awstralia heddiw.

Mae disgwyl i 30,000 o ffans y Llewod fod yn stadiwm Etihad i wylio’r ail gêm brawf. Dywed eu capten Sam Warburton ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm, gan ddweud ei fod yn teimlo’n hollol gyffrous wrth feddwl am yr ornest.

Mae un arall o’r Cymry fydd ar faes y gad heddiw, Adam Jones, hefyd wedi sôn am y cyffro a’r sylweddoliad y gall hwn fod yn gêm aruthrol o bwysig o ran gyrfaoedd y Llewod sy’n cymryd rhan.

Mae pum newid i’r tîm wnaeth chwarae yn y gêm brawf gyntaf. Dyw Mike Phillips ddim wedi cael ei ddewis y tro hwn.  Dyw e ddim ar y fainc chwaith. Ben Youngs fydd yn chwarae yn ei le. Mae Alex Cuthbert ar y fainc, ond y Gwyddel Tommy Bowe fydd yn dechrau’r gêm ar yr asgell, gyda George North ar yr asgell arall.