Mae capten tîm rygbi Awstralia, James Horwill wedi dweud bod ei dîm yn barod i herio’r Llewod yn yr ail brawf yn Melbourne yfory.
Mae Awstralia 1-0 ar ei hôl hi yn y gyfres, ar ôl iddyn nhw golli o 23-21 yn Brisbane ddydd Sadwrn diwethaf.
Dywedodd Horwill: “Mae Awstraliaid yn gyffredinol yn hoffi profi pobol yn anghywir drwyddi draw.
“Os edrychwch chi ar unrhyw gamp, daw rhai o’r perfformiadau gorau pan fo pethau yn eich erbyn chi a phobol yn sefyll i fyny pan nad oes disgwyl iddyn nhw.
“Rydyn ni am ennill i bawb – i’n gwlad, i’r bobol sydd wedi chwarae yn y crys o’r blaen ac i’r bois yn y grŵp hwn.
“Rydyn ni’n sicr yn benderfynol, beth bynnag sydd wedi digwydd.”
Dim Pat McCabe
Bydd nifer o chwaraewyr amlycaf Awstralia’n colli’r gêm fory oherwydd anafiadau, gan gynnwys Digby Ioane, Berrick Barnes a Pat McCabe.
Ddechrau’r wythnos, cafodd warant ei gyhoeddi i arestio Digby Ioane ar ôl iddo fethu gwrandawiad llys, ac fe gafodd lluniau o James O’Connor a Kurtley Beale mewn bwyty am 3.40am eu cyhoeddi.
Ddoe cyhoeddodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol eu bod nhw’n apelio yn erbyn penderfyniad panel disgyblu nad oedd James Horwill wedi sathru ar Alun-Wyn Jones ddydd Sadwrn diwethaf.
Pe bai’r apêl yn llwyddiannus, fe allai capten Awstralia golli’r gêm olaf yn y gyfres.
Bydd Horwill yn darganfod ei dynged yr wythnos nesaf.