Mae golwg360 wedi cael ar ddeall mai’r tywydd yw un o’r prif resymau pam nad yw S4C yn bwriadu darlledu gemau criced T20 Morgannwg y tymor hwn.
Bu cytundeb rhwng S4C â Bwrdd Criced Lloegr (ECB) i ddangos pump o ornestau Morgannwg yn y gystadleuaeth ugain pelawd bob tymor rhwng 2010 a 2013.
Ond penderfynodd S4C dynnu allan o’r cytundeb y tymor hwn oherwydd “ystyriaethau ariannol a golygyddol”.
Effeithiodd y glaw ar nifer o ornestau yn ystod 2011 a 2012, a hynny sy’n bennaf gyfrifol am y penderfyniad.
Yn sgil y tywydd, cafodd nifer o raglenni eu symud i amserau gwahanol ar y diwrnodau roedd S4C yn darlledu’r gornestau.
Wrth gyhoeddi’r cytundeb ar ddechrau 2008, dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands: “Wrth ddangos pum gêm Morgannwg yn fyw ac yn ecsgliwsif ar deledu rhad ac am ddim, yn ogystal ag uchafbwyntiau o gemau Morgannwg… bydd S4C yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad criced ar bob lefel yng Nghymru.”
Heddiw, ar ddechrau’r gystadleuaeth T20, dywedodd Geraint Rowlands mewn datganiad: “Er inni gytuno’n wreiddiol gyda’r ECB i ddangos hyd at bump o gemau undydd Morgannwg y flwyddyn am bedair blynedd, fe gafodd hynny ei adolygu ar ôl tair blynedd a phenderfynwyd dod â’r cytundeb i ben.
“Roedd y penderfyniad i wneud hynny’n seiliedig ar ystyriaethau ariannol a golygyddol a’r ffaith bod y tywydd wedi effeithio ar raglenni’n sylweddol.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Forgannwg ymateb.
Gêm heno
Mae Morgannwg yn dechrau’r gystadleuaeth heno yng Nghaerwrangon, gyda’r belen gyntaf yn cael ei bowlio am 5.30pm.
Dim ond dwy allan o’r chwe gornest ddiwethaf yng Nghaerwrangon y mae Morgannwg wedi’u hennill, a’r olaf o’r rheini yn 2008.
Mae disgwyl i’r chwaraewr amryddawn o Seland Newydd, Nathan McCullum ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf.
Carfan Morgannwg: Jim Allenby, Mark Wallace (wicedwr), Chris Cooke, Marcus North (capten), Murray Goodwin, Ben Wright, Stewart Walters, Nathan McCullum, Nick James, Dean Cosker, Michael Hogan, Will Owen, Graham Wagg, Alex Jones.