Mae’r cwmni ariannol byd-eang Goldenway wedi arwyddo cytundeb gydag Abertawe i noddi eu crysau y tymor nesaf.

Hwn yw’r cytundeb mwyaf yn hanes y clwb, ac mae’n werth £2 miliwn.

Bydd Goldenway GWFX yn disodli’r cwmni casino 32Red ar flaen crysau cartref ac oddi cartref yr Elyrch.

Cytundeb o flwyddyn sydd wedi’i arwyddo, ond fe fydd modd ei ymestyn ar ddiwedd y tymor.

Mae’r cwmni’n gweithredu yn Llundain, Auckland a Hong Kong, ac mae’r clwb yn gobeithio y bydd yn denu rhagor o ddiddordeb ymhlith cefnogwyr o Asia.

Cafodd y cytundeb ei reoli a’i gwblhau gan y cwmni ymgynghori, SportQuake.

Dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi dod i gytundeb ac rydym yn edrych ymlaen at ein partneriaeth.

“Gobeithio y gallwn ni adeiladu perthynas wych dros y 12 mis nesaf a gobeithio am y blynyddoedd i ddod.

“Rydyn ni wedi adeiladu’r clwb yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi newid pethau, wedi ychwanegu pethau ac mae bod yn y sefyllfa rydyn ni ynddi heddiw yn yr Uwch Gynghrair, gyda chwmni fel Goldenway yn ymuno â ni, yn gwneud y clwb yn falch iawn.

“O fewn yr Uwch Gynghrair, rydyn ni’n sicr y bydd proffil ein clwb a Goldenway yn cael ei ddatblygu ac y gallwn ni gael dyfodol da gyda’n gilydd.

“Mae’n hawdd bob amser i gael noddwr pan ydych chi’n dymuno cael un, ond roedd dod o hyd i’r un mwyaf addas ar gyfer y clwb pêl-droed yn bwysig iawn.”