Yr orymdaith yng Nghaerdydd y llynedd
Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn mynegi ei ddiolch i’r Lluoedd Arfog mewn digwyddiad yng Nghaerdydd heddiw.

Mae’r digwyddiad, a gynhelir ar dir Castell Caerdydd, yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog sy’n cynnig cyfle i bobl ddangos eu gwerthfawrogiad o gyfraniad aelodau’r fyddin i’n cymdeithas.

“Mae ein dyled yn enfawr i’n Lluoedd Arfog a’n cyn-filwyr sy’n gweithio’n ddiflino i’n galluogi ni i fyw mewn gwlad heddychlon a diogel,” meddai Carwyn Jones.

“Mae heddiw’n gyfle inni fel cenedl allu dangos ein parch a’n cefnogaeth barhaus iddynt.

“Rwy’n credu’n gryf bod angen inni goffáu gwrthdrawiadau’r gorffennol a’r bobl wnaeth aberthu er mwyn ein diogelwch ni. Cynhaliwyd digwyddiadau ledled Cymru eleni i nodi prif ddigwyddiadau’r Ail Ryfel Byd, fel dathlu 70 mlynedd ers Brwydr yr Iwerydd, ac rydym ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer digwyddiadau’r flwyddyn nesaf i nodi can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

“Mae’n bwysig fod cenedlaethau’r dyfodol yn ymwybodol o’r hanes hwn ac yn cofio am y rhai fu’n brwydro drosom ni, a’r rhai sy’n dal i frwydro drosom ni, fel y gallwn barhau i fwynhau’r pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol heddiw.”

Bydd y Prif Weinidog yn ymuno â’r milwyr presennol, milwyr wrth gefn, cadlanciau a chyn-filwyr yn y digwyddiad, a cheir darlleniad ganddo yn dilyn gorymdaith drwy ganol y ddinas.

Mae’r dathliad hwn yn un o nifer sy’n cael eu cynnal ar draws y DU ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn 2009 i gydnabod y rhai sydd wedi gwasanaethau ac sy’n parhau i wasanaethu yn y lluoedd arfog.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r Lluoedd Arfog yng Nghymru. Cyhoeddwyd pecyn cymorth wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru’r wythnos hon, yn ogystal ag addewid o £2 filiwn i gefnogi tai i bersonél sy’n gadael y lluoedd arfog.