Mae Carwyn Jones wedi croesawu ymrwymiad gan y diwydiant gwynt ar y tir i wneud y gorau posib o fuddion cymunedol ac economaidd ar gyfer cymunedau sy’n gartref i ddatblygiadau gwynt.

Mae’r Datganiad ar Fuddion Cymunedol o Wynt Ar y Tir, sy’n cael ei gefnogi gan gorff y diwydiant Renewable UK Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi cael ei lofnodi gan ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru.

Bydd yn sicrhau eu bod yn cysylltu â chymunedau mewn ffordd gyson a thryloyw.

Dywedodd  Prif Weinidog Cymru ei fod yn falch o nodi bod nifer o ddatblygwyr ar y tir eisoes wedi llofnodi’r datganiad cyn iddo gael ei gyhoeddi hyd yn oed, ac mae wedi annog mwy o ddatblygwyr gwynt ar y tir i wneud yr un fath.

Ychwanegodd, er bod Llywodraeth y DU wedi argymell buddion cymunedol yn Lloegr o £5,000 am bob megawat, mae datblygiadau yng Nghymru fel Pen y Cymoedd (Vattenfall) a Gorllewin Coedwig Brechfa (RWE) eisoes yn cynnig buddion cymunedol ar y lefel hon.

‘Cynnig buddion i gymunedau’

Dywedodd Carwyn Jones: “Mae’r lefelau sy’n cael eu hargymell yn Lloegr yn feincnod i gymunedau yng Nghymru o ran isafswm maint a chwmpas. Rydyn ni’n cydnabod yng Nghymru mai un ffordd yn unig o gynnig buddion i gymunedau yw’r cronfeydd buddion cymunedol, ac nid ydym am roi cyfyngiadau ar arloesi a hyblygrwydd yn hyn o beth.

“Yng Nghymru mae’n rhaid i ni ddangos sut bydd buddion fel hyn, ynghyd â buddion economaidd ar gyfer y gadwyn gyflenwi, yn galluogi cymunedau i gael eu siâr o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil trawsnewid i ddyfodol carbon isel. Bydd ein Cofrestr Buddion Cymunedol ac Economaidd sydd ar y gweill yn gwneud cryn dipyn yn hyn o beth drwy ddangos faint o fuddion y mae datblygwyr yn eu cynnig, ynghyd â sut maen nhw’n eu cyflawni.

“Mae hyblygrwydd ein polisi yn caniatáu buddion cynaliadwy i gymunedau sy’n ehangach eu hystod ac yn fwy o faint. Mae gan Renewable UK Cymru a’r diwydiant gwynt ar y tir rôl hanfodol o ran gwneud i hyn ddigwydd, ac rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu parhaus rhwng diwydiant, cymunedau a’r Llywodraeth.”