Mae’n ymddangos nad yw Edward Snowden, a oedd wedi datgelu rhai o gyfrinachau gwasanaethau cudd America, ar awyren yn teithio o Moscow i Giwba yn ol y disgwyl.

Dywedodd cwmni awyrennau Aeroflot bod yr awyren wedi gadael ond nad oedd Edward Snowden yn un o’r teithwyr.

Roedd Edward Snowden wedi hedfan i Moscow o Hong Kong ddoe ac roedd disgwyl iddo hedfan i Giwba  heddiw cyn teithio trwy Feneswela i Ecuador.

Mae Llywodraeth Ecuador yn ystyried cais am loches gan Edward Snowden.

Mae Snowden, a oedd yn arfer gweithio fel technegydd i’r CIA, yn wynebu cyhuddiadau o ysbïo yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Aeroflot yn gynharach bod Edward Snowden wedi prynu tocyn ar gyfer y daith gan ddefnyddio pasbort yr Unol Daleithiau, ond meddai swyddogion Americanaidd bod ei basbort wedi cael ei ddiddymu.