Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus gan fod disgwyl glaw trwm prynhawn ‘ma a allai arwain at lifogydd lleol.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud y gellri disgwyl tywydd garw gan gynnwys glaw trwm a tharanau, yn enwedig yn ardaloedd Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Mae posibilrwydd i’r tywydd garw achosi llifogydd gan effeithio ar y ffyrdd, ceuffosydd a nentydd bychain ac mae teithwyr yn cael eu hannog i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio heno.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl i gadw golwg manwl ar y tywydd gan wrando ar y newyddion diweddaraf sy’n benodol i’w hardal.
Am y diweddara ar y tywydd ffoniwch 0845 988 1188.