Lesley Griffiths
“Mae newid yn hanfodol” – dyna ddywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths wrth annerch cynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yng Nghaerdydd heddiw.

Dywedodd Lesley Griffiths bod y sefyllfa ariannol bresennol yn golygu bod newid yn hanfodol a’r unig ffordd i gwrdd â’r her oedd drwy weithio gyda’i gilydd.

Ychwanegodd bod sefyllfa ariannol bresennol y sector cyhoeddus yng Nghymru yn “ddigynsail.”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir droeon ein bod ni’n credu bod y toriadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Glymblaid Prydain yn digwydd yn rhy gyflym ac yn mynd yn rhy bell. Rydyn ni i gyd yn ymdrechu’n galed i wneud i bethau weithio o fewn y cyfyngiadau sydd arnom ni o ganlyniad i’r toriadau llym yma.”

‘Cydweithio i gwrdd â’r her’

Dywedodd bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda’i gilydd a gwneud ymrwymiad ar y cyd i gwrdd â’r her sy’n eu hwynebu.

“Mae’n rhaid blaenoriaethu nawr er mwyn gallu darparu mwy gyda llai,” meddai gan ychwanegu ei bod yn deall pryderon awdurdodau lleol ynglŷn â’r penderfyniadau anodd sy’n eu hwynebu.

Dywedodd bod yn rhaid “osgoi’r demtasiwn i wneud toriadau eang i wasanaethau heb ystyried yn ofalus yr effaith ehangach.

‘Hunllefus’

Wrth siarad â’r BBC heddiw dywedodd cyfarwyddwr y WLGA Steve Thomas y bydd effaith toriadau ar wasanaethau yn y dyfodol yn “hunllefus”.

“Fe fydd yr effaith ar y gwasanaethau llai yna, fel hamdden, trafnidiaeth, safonau masnach, iechyd amgylcheddol – pethau sy’n bwysig iawn i bobol – yn gyflafan,” meddai.

Er bod cynghorau yng Nghymru wedi osgoi gwneud toriadau i’r un graddau â chynghorau yn Lloegr hyd yn hyn mae’n ymddangos na fydd Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau na fydd hynny’n digwydd o hyn ymlaen.