Mae dyn wedi arestio yn dilyn digwyddiad amheus mewn parc yn Rhiwbeina, Caerdydd.

Roedd dwy ferch 10 ac 11 mlwydd oed yn cerdded trwy Parc Caedelyn tua 11yb dydd Sadwrn pan ddaeth dyn atyn nhw.

Mae un o’r merched wedi dweud fod y dyn wedi gafael yn ei choesau cyn iddo ddianc. Ni chafodd y merched eu hanafu.

Heddiw, cafodd dyn 19 mlwydd oed ei arestio ym Mharc Caedelyn ac mae ymholiadau’r heddlu yn parhau.

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad bod Rhiwbeina “yn lle saff ac yn parhau i fod yn le saff” a’u bod nhw’n cynghori pobl ifanc i aros gyda ffrindiau pan maen nhw allan.

Mae’r heddlu yn holi am unrhyw un sydd a gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu a nhw ar y rhif 101.