Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi enwi gwr ifanc fu farw mewn damwain ffordd ar yr A541 brynhawn Llun, Mehefin 17.  

Kieran Arnold, 21 oed, o bentre’ Cymau ger Wrecsam, gafodd ei ladd pan darodd Land Rover Discovery lliw arian yn erbyn fan Ford Transit lliw oren.

Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel “mab ffantastig, a brawd mawr cariadus i Aaron (8 oed) a Steffan (6 oed).

Roedd Kieran, yn ôl ei deulu, yn mwynhau cadw’n ffit a chodi pwysau, ac yn gweithio fel plymar a oedd wedi gobeithio dechrau ei fusnes ei hun rhyw ddydd.

Mae dyn lleol, 47 mlwydd oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus. Mae’n parhau yn y ddalfa.