Llyr Gruffydd
Mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am “oedi enbydus” cyn diwygio canllawiau cynllunio ar yr iaith Gymraeg.

Union ddwy flynedd wedi i’r ymgynghori ar ddiwygio Nodyn Cynghori Technegol 20 (TAN 20) ddod i ben, mae Llyr Huws Gruffydd yn dweud fod yna “fethiannau” yn y canllawiau presennol.

Dywedodd fod angen edrych eto ar TAN 20 er mwyn sicrhau fod effeithiau datblygiadau ar yr iaith Gymraeg yn cael eu hystyried yn gywir yn y system gynllunio, i amddiffyn a chryfhau’r iaith.

“Cafodd yr ymgynghoriad ar TAN 20 ei lansio am ei fod yn amlwg fod angen ymdrin â materion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a pholisi cynllunio o hyd,” meddai Llyr Gruffydd.

“Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’n hollol annerbyniol fod y Gweinidog wedi methu cyhoeddi canllawiau diwygiedig.

“Yr hyn sy’n peri mwy fyth o loes yw bod y Gweinidog fel petai’n gwadu graddfa methiannau TAN20 fel y mae ar hyn o bryd.

“Mae methu unwaith eto ag ymrwymo i amserlen glir ar gyflwyno cyngor diwygiedig yn dangos yn amlwg nad yw’r Llywodraeth Lafur o ddifrif am ymdrin â mater allweddol sy’n cael effaith enfawr ar ddyfodol yr iaith Gymraeg mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.”

Dim digon da

Dangosodd gwybodaeth a gan Gymdeithas yr Iaith trwy gyfres o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth mai dim ond 16 o 60,000 cais cynllunio a aseswyd am eu heffaith ar yr iaith Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf – sef 0.03% o geisiadau.

Yn gynharach y mis hwn, disgrifiodd Comisiynydd y Gymraeg yr hen nodyn cynghori a gyhoeddwyd yn 2000 fel un “beius o’r cychwyn” a galwodd am welliannau drastig er mwyn sicrhau dyfodol y cymunedau Cymraeg.