Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi beirniadu amserau aros ar gyfer cleifion canser.

Yn ôl ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw, mae canran y cleifion sy’n derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod ar ôl derbyn diagnosis wedi cyrraedd ei lefel isa’ erioed.

Dywedodd Kirsty Williams: “Mae’n frawychus gweld bod amseroedd aros tros ganser yn gwaethygu.

“Mae 62 diwrnod eisoes yn amser anhygoel o hir i rywun orfod aros i gael gweld arbenigwr canser; mae gorfodi pobol i aros yn hwy fyth yn gwbl annerbyniol.”

Nod Llywodraeth Cymru yw fod 95% o gleifion canser yn derbyn cyngor arbenigol o fewn 62 diwrnod, ond yn ystod y tri mis diwethaf, dim ond 83.6% a gyrhaeddodd y targed.

‘Ffaelu cleifion’

“Dydy Llywodraeth Lafur Cymru ddim wedi cyrraedd y targed o ran amserau aros ers y chwarter a ddaeth i ben ym Mehefin 2008,” meddai Kirsty Williams.

“Yn hytrach na gweld cynnydd, mae canran y bobol sy’n aros am driniaeth wedi tyfu unwaith eto.

“Mae’n ffaith drist fod Llywodraeth Lafur Cymru’n ffaelu nifer o gleifion canser ledled Cymru.”

Llywodraeth Prydain yn ymosod

Mae Llywodraeth Prydain yn parhau i ddefnyddio’r ffigurau aros yng Nghymru i golbio’r Blaid Lafur.

Ddoe, yn Nhŷ’r Cyffredin, roedd yr Ysgrifennydd Iechyd yn ymosod ar fethiant Cymru i gyrraedd targeda aros mewn adrannau Damwain a Brys.

Doeddwn nhw ddim wedi cael eu taro ers 2009, meddai Jeremy Hunt, gan roi’r bai ar doriadau gwario ym maes iechyd yng Nghymru.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.