Mae rhai o gynghorwyr sir Castell-nedd Port Talbot yn anfodlon gyda gwasanaethau cyfieithu sydd ar gael iddyn nhw mewn cyfarfodydd.

Er mwyn cael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd, rhaid i gynghorwyr roi rhybudd o’u bwriad bedair wythnos ymlaen llaw.

Daethpwyd o hyd i’r wybodaeth hon pan ofynnodd Cynghorydd Plaid Cymru Trebanws, Rebeca Lewis am fanylion trwy gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth.

Dywed rhai cynghorwyr nad yw’r Cyngor wedi ymchwilio, ychwaith, i gostau cyflogi cyfieithwyr llawrydd i gynnig y gwasanaeth.

Mae Rebeca Lewis wedi mynegi pryderon hefyd nad yw’r cynghorydd sy’n gyfrifol am y Gymraeg yn y Cyngor Sir yn medru’r iaith.

Dywedodd y Cyngor wrthi eu bod nhw wedi ymrwymo i hybu a chefnogi’r Gymraeg.

Ar ôl iddi gwyno am y cyfnod rhybudd er mwyn cael siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd, dywedodd y Cyngor wrthi y “dylai wythnos fod yn ddigon”.

Mae hi wedi addo defnyddio’r Gymraeg ym mhob cyfarfod posib o hyn ymlaen.

Mae gan y Cyngor bolisi Iaith Gymraeg sy’n rhoi statws cydradd i Gymraeg a Saesneg mewn cyfarfodydd.