Mae corff wedi cael ei ddarganfod yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhenygroes, Gwynedd, prynhawn ma.
Cafodd diffoddwyr tân o Gaernarfon eu galw i dân yn Ffordd Llanllyfni ym Mhenygroes am 3:03yh prynhawn ma.
Aeth diffoddwyr tân i mewn i’r eiddo drwy ddefnyddio offer anadlu ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff yn y gegin.
Mae ffordd yr A487 wedi ei chau rhwng Llanllyfni a Phenygroes.
Nid oes rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd.