Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod y frech goch yn dal i ledaenu’n gyflym ac nad oes digon o blant yn cael eu brechu, wrth iddyn nhw gyhoeddi cynnydd yn nifer yr achosion o’r haint yn ardal Abertawe ac ar draws Cymru.

Roedd 22 o achosion newydd o’r frech goch yn ardal Abertawe ers dydd Iau diwethaf, a 32 o achosion mewn rhannau eraill o Gymru.

Er bod y cynnydd yn llai na’r hyn sydd wedi ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf ers dechrau’r epidemig, dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod y ffigurau’n bryderus o uchel  o ystyried mai dim ond 19 o achosion o’r frech goch a gyhoeddwyd yng Nghymru trwy gydol 2011.

Dywed ICC bod nifer y rhai sy’n derbyn y brechiad MMR yn galonogol ond nad oes digon yn cael eu brechu mewn rhannau eraill o Gymru, yn enwedig plant yn yr oedran sy’n wynebu’r risg mwyaf, sef rhwng 10 a 18 oed.

Mae 1,061 o achosion o’r frech goch erbyn hyn yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Phowys, a 1,224 yng Nghymru gyfan gydag achosion ym mhob un o ardaloedd y byrddau iechyd.

Ond mae nifer y rhai sydd heb gael eu brechu yn yr oedran 10 i 18 ar draws Cymru yn peri pryder, meddai ICC, yn enwedig yn ardal Gwent lle mae mwy na 10,000 yn dal heb gael eu brechu.

Mae ymgyrchoedd brechu yn parhau mewn ysgolion ar draws Cymru, ac fe fydd clinigau ychwanegol yn cael eu cynnal yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg ddydd Sadwrn.

Fe fydd y clinigau’n cael eu cynnal ar 11 Mai yn Ysbyty Singleton a Threforys yn Abertawe, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot rhwng 10yb a 4yh. Nid oes angen apwyntiad.