Llys y Goron Caerdydd
Fe fydd cyn-blismon a diffoddwr tân yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ym mis Medi, wedi’u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae’r cyn-blismon Byron Emerson-Thomas, 42 oed o’r Bontfaen, ym Mro Morgannwg wedi’i gyhuddo o ddwyn pwysau ar gydweithiwr, trwy negeseuon testun, i ollwng cyhuddiad yn erbyn dyn arall.
Ymddiswyddodd o’r heddlu’n gynharach eleni.
Mae’r diffoddwr tân, Shey Watkins, 36 oed o Flaenafon hefyd wedi’i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy negeseuon testun.
Honnir ei fod e wedi anfon negeseuon at y plismon i ddwyn pwysau arno’n anghyfreithlon.
Cafodd y negeseuon eu hanfon ar Hydref 11 y llynedd.
Mae’r ddau ddyn wedi gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Byddan nhw’n dychwelyd i Lys y Goron Caerdydd ar Fedi 25.