Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw fod 1,011 o achosion o’r frech goch erbyn hyn.

Mae nifer yr achosion wedi cynyddu eto, er gwaethaf ymdrechion i frechu oddeutu 4,000 o blant gyda brechlyn MMR yn y mis diwethaf.

Mae’n golygu bod 69 o achosion newydd wedi eu cofnodi yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda ers dydd Iau.

Ond mae 5,000 o blant sydd angen y brechlyn heb ei gael eto.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod angen gwneud yr un ymdrech i frechu trwy Gymru gyfan ag a gafwyd yn Abertawe yn ystod yr wythnosau diwethaf, er mwyn dod â’r haint i ben.

‘50,000 dal heb eu brechu’

Mae’r brechu mewn ysgolion, meddygfeydd a chlinigau brechu yn parhau ar gyfer plant 10 i 18 oed.

Mae 84 o bobol wedi derbyn triniaeth ysbyty am y frech goch erbyn hyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Amddiffyn Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Marion Lyons: “Mae’r ymdrechion i frechu plant sydd mewn perygl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi bod yn aruthrol ac rydym wrth ein boddau o weld bod tua hanner y plant sydd angen y brechlyn wedi derbyn yr MMR erbyn hyn.

“Ond gydag oddeutu 50,000 o blant yn y grŵp oedran 10 i 18 heb eu brechu eto, a mwy na 1,000 o achosion wedi’u hadrodd i ni, allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau.”

Ategodd ei hapêl i rieni frechu eu plant.

Cwest

Yn y cyfamser mae cwest  i farwolaeth dyn 25 oed wedi cael  ei agor a’i ohirio heddiw.

Cafwyd hyd i gorff Gareth Colfer-Williams yn ei gartref yn Morth Tennant, Abertawe ac fe gadarnhawyd ei fod wedi ei heintio gyda’r frech goch pan fu farw.

Roedd archwiliad post mortem wedi methu darganfod ai’r frech goch oedd wedi achosi ei farwolaeth.

Dywedodd y crwner Philip Rogers yn y cwest bod y patholegydd Dr Maurizio Brotto yn dal i aros am ganlyniadau rhai o’r profion yn dilyn yr archwiliad post mortem, a’i fod am ohirio’r cwest nes bod y canlyniadau wedi eu derbyn.

Galw am ymchwiliad cyhoeddus

Mae’r Ceidwadwyr wedi galw ar y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r achosion.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: “Mae hon yn garreg filltir bryderus iawn mewn haint parhaus sy’n parhau i dyfu ac sy’n parhau’n bryder mawr.

“Pan fo’r epidemig wedi lleddfu, mae’n hanfodol bod ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru fel y gellir dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

“Mae costau cynyddol yn cael eu pentyrru ar fyrddau iechyd, sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd, ac rwy’n annog y Gweinidog i gadarnhau ei barodrwydd i ddiogelu’r costau sydd ynghlwm wrth yr achosion fel mater brys.

“Pryderon am arian yw’r peth olaf sydd ei angen ar benaethiaid y Gwasanaeth Iechyd pan maen  nhw’n brwydro yn erbyn afiechyd all fod yn farwol.”

Ymateb y Gweinidog Iechyd

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Bydd Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd a Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth reswm, yn edrych ar ba wersi y gellir eu dysgu o’r achosion presennol o’r frech goch, ond does dim cynlluniau ar y gweill i gynnal ymchwiliad cyhoeddus.”