Leighton Andrews
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi dweud ei fod am weld Coleg Harlech yn uno gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (CAG) De Cymru erbyn diwedd 2013.

Daeth Coleg Harlech a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr Gogledd Cymru ynghyd yn 2001 ac mae Leighton Andrews yn gobeithio y bydd uno gyda CAG y de yn diogelu’r ddarpariaeth i ddysgwyr yng Ngholeg Harlech.

Fis Ionawr roedd Leighton Andrews wedi  bygwth atal cyllid i Goleg Harlech os nad oedden nhw’n cymryd camau i fynd i’r afael â phroblemau ariannol y sefydliad. Ddiwedd 2012 roedd dyledion y Coleg, sy’n darparu cyrsiau addysgol i oedolion, yn £900,000.

Heddiw dywedodd Leighton Andrews fod “pryderon yn parhau ynghylch rhai agweddau ar sefyllfa ariannol y coleg” a’i fod am sicrhau nad yw CAG De Cymru “dan anfantais” os bydd uno.

Dywedodd Leighton Andrews fod trafodaethau wedi dechrau er mwyn uno CAG De Cymru a Choleg Harlech-CAG Gogledd Cymru, a’i fod “yn disgwyl i goleg Cymru gyfan gael ei sefydlu erbyn 31 Rhagfyr 2013 fan hwyraf.”

Ymateb Coleg Harlech

Mae Coleg Harlech wedi dweud eu bod nhw’n “cytuno’n fras” gyda datganiad y Gweinidog Addysg.

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Jon Parry: “Mae trafodaethau uno gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr De Cymru yn ail-ddechrau gyda’r bwriad o gwblhau’r broses erbyn Rhagfyr 31 2013.”

“Rydym ni gyd yn edrych ymlaen at greu sefydliad cenedlaethol ar gyfer addysg oedolion ble gall Coleg Harlech-CAG (Gogledd) gyfrannu ei arbenigedd a’i adnoddau.”

‘Bygythiad i swyddi’

Wrth ymateb i gyhoeddiad Leighton Andrews dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas:

“Rwyf wedi bod yn pryderu am ddyfodol Coleg Harlech oherwydd anawsterau ariannol y sefydliad addysg uwch hwnnw, ac fe gyflwynais gwestiynau ysgrifenedig a chyfarfod y Gweinidog Addysg i leisio fy mhryderon.

“Rwyf yn bryderus iawn am y bygythiad i swyddi ac i’r sefydliad. Mae Coleg Harlech a’r WEA yn cynrychioli agwedd wahanol tuag at addysg oedolion, ac y mae iddynt hanes maith ac anrhydeddus yng Nghymru.

“Yn amlwg, rhaid i’r coleg dorri ei chot yn ôl y brethyn, a rhaid iddynt foderneiddio i ymateb i’r ffyrdd gwahanol y mae pobl yn gallu neu eisiau astudio yn awr. Fodd bynnag, yr wyf o’r farn fod Coleg Harlech yn cynrychioli haen bendant o ddysgu nad oes modd ei dyblygu na’i throsglwyddo yn syml i sefydliad addysg uwch neu bellach arall.

“Mae’n drueni fod y coleg wedi mynd i’r fath lanast ariannol, ond dylai’r gwaith o ffurfio un Gymdeithas Addysg y Gweithwyr i Gymru barhau os oes modd yn y byd, ac yr wyf yn gobeithio’n fawr y bydd presenoldeb dysgu yn parhau yn Harlech fel conglfaen coleg addysg oedolion newydd i Gymru gyfan. Dyna fyddai orau yn economaidd ac yn addysgol i Feirionydd ac i Gymru.”