Mae ymchwiliad newydd i  achosion hanesyddol o gam-drin plant yng ngogledd Cymru wedi datgelu tystiolaeth newydd “sylweddol” am achosion o gam-drin rhywiol a cham-drin corfforol.

Dywed ditectifs sy’n rhan o Ymchwiliad Pallial , gafodd ei lansio ym mis Tachwedd y llynedd, eu bod nhw wedi derbyn 140 o honiadau’n ymwneud ag 18 o gartrefi gofal rhwng 1963 a 1992, gan gynnwys honiadau newydd gan 76 o bobl.

Mae nifer y dioddefwyr honedig a’r cartrefi gofal sy’n gysylltiedig â’r honiadau yn llawer uwch na’r disgwyl.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Ian Mulcahey sy’n arwain Ymchwiliad Pallial: “Mae’r rhain yn honiadau difrifol ac fe fyddan nhw’n cael eu hymchwilio’n fanwl.”

Daw’r cyhoeddiad am gymal cyntaf yr adroddiad heddiw ddyddiau ar ôl i ddyn gael ei arestio yn Ipswich a’i gludo i orsaf heddlu yng ngogledd Cymru ar gyhuddiad o “nifer o droseddau rhyw difrifol yn erbyn nifer o unigolion”. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Gorffennaf tra bod ymchwiliadau’n parhau meddai’r Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA).

Fo ydy’r person cyntaf i gael ei arestio mewn perthynas ag Ymchwiliad Pallial hyd yn hyn.

84 o bobl yn cael eu henwi

Mae’r adroddiad heddiw yn dweud bod cyfanswm o 84 o bobl – 75 o ddynion a 9 o fenywod – wedi cael eu henwi gan rai sydd wedi gwneud honiadau o gam-drin. Credir bod tua 10 eisoes wedi marw.

Roedd y dioddefwyr honedig rhwng 7 ac 19 oed, meddai’r heddlu.

Cafodd Ymchwiliad Pallial ei sefydlu yn dilyn honiadau ar raglen Newsnight y BBC bod ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal wedi methu ymchwilio’n drwyadl i’r holl achosion o gam-drin.

Barnwr yn yr Uchel Lys Mrs Ustus Macur sy’n arwain yr adolygiad.

Fe fydd ail gymal yr ymchwiliad yn cynnal ymchwiliadau pellach, ar y cyd a Gwasanaeth Erlyn a Goron.

Ymateb Plaid Cymru

Wrth ymateb i’r datblygiadau diweddaraf yn yr ymchwiliadau, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Mae nifer yr honiadau o gam-drin a ddioddefodd plant bregus iawn yn yr union fannau lle dylen nhw fod wedi cael eu hamddiffyn yn frawychus.

“Ni ddylid byth bod wedi caniatáu’r cam-drin hwn, ond mae’r ffaith ei fod wedi cymryd cyhyd i fod yn destun ymchwiliad llawn a thrylwyr yn warth.

“Petai ymchwiliad trylwyr wedi ei gynnal o’r cychwyn, yna efallai y buasai’r sawl sydd wedi cyflwyno honiadau newydd dros y misoedd diwethaf wedi gwneud hynny yn gynt o lawer.”

Mae wedi galw am roi cymorth cwnsela proffesiynol i’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil y cam-drin honedig.