Mark Bridger yn y llys
Mae’r achos llys yn erbyn Mark Bridger, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio’r ferch 5 oed o Fachynlleth, April Jones yn dechrau heddiw. Mae Golwg360 yn Llys y Goron yr Wyddgrug gyda’r datblygiadau diweddaraf…

3.30yh – Mae’r Barnwr Mr Ustus Griffith-Williams wedi rhoi gwybod i lys rhif un ei fod am glywed dadleuon cyfreithiol y prynhawn yma, heb fod y rheithwyr yn bresennol.

Y bore ma cafodd 26 o bobol eu dethol yn gymwys ar gyfer gwasanaethu yn rheithwyr yn achos April Jones, a bydd y 12 terfynol yn cael eu dewis bore yfory.

Roedd rhieni April Jones, Paul a Coral Jones, yn y galeri uwchben llys rhif un yn gwylio’r broses o ddewis y rheithgor.

Yr wythnos hon bydd y bargyfreithwraig Elwen Evans QC ar ran yr erlyniad yn amlinellu’r dystiolaeth ac yn galw tystion.

1yh Mae’r achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi cael ei ohirio tan 2.30yh.

11.45 – Dydd Iau bydd y rheithgor yn ymweld â Machynlleth – a stad Bryn y Gog, a phentref Ceinws ble roedd y diffynnydd Mark Bridger yn byw.

11.30 – Mae’r Ustus Griffith Williams wedi pwysleisio na ddylai fod cyswllt rhwng aelodau’r rheithgor a Machynlleth.

11.05yb – Mae’r broses o ddewis y rheithgor wedi cychwyn. Mae rhieni April, Paul a Coral Jones hefyd wedi cyrraedd y llys.

10.50yb – Mae Mark Bridger, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones, wedi cyrraedd y llys. Mae llu o newyddiadurwyr yn y llys i wrando ar yr achos heddiw, a lorïau lloeren yn amlwg iawn yn y maes parcio gyferbyn â Llys y Goron.