Fe fydd dyn 18 oed yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio, yn dilyn marwolaeth dyn 21 oed o’r Waun.

Fe fu Danny Jones farw yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu ger maes parcio Lord Street yng Nghroesoswallt ddydd Mercher diwetha’.

Mae’r heddlu’n credu eu bod nhw wedi dod o hyd i’r gyllell a gafodd ei defnyddio yn yr ymosodiad.

Fe gafodd y dyn lleol ei arestio yn weddol fuan wedi’r digwyddiad gan Heddlu Gorllewin Mersia, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Amwythig heddiw.