Mae undeb athrawon UCAC wedi penderfynu o blaid ystyried streicio i wrthwynebu cynllun i dalu athrawon yn ôl perfformiad.

Pleidleisiodd aelodau’r undeb Cymraeg yn unfrydol o blaid y cynnig yng Nghynhadledd Flynyddol yr undeb yn Llandrindod heddiw.

Maen nhw’n cyhuddo’r Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan, Michael Gove, o chwalu’r sistem dâl sy’n bodoli ar hyn o bryd ac o roi cyfrifoldeb ar brifathrawon i benni cyflog pob athro.

Daw’r drefn gyflogi i rym yng Nghymru a Lloegr ym mis Medi eleni. Mae Michael Gove wedi dadlau y bydd tâl yn ôl perfformiad yn gwneud y proffesiwn yn “fwy deniadol” ac yn gwobrwyo’r athrawon gorau.