Mae cynllun brechu yn cael ei ymestyn i ysgolion gorllewin Cymru er mwyn ceisio atal y frech goch rhag lledu.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda heddiw wedi dechrau brechu disgyblion ysgol yn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion ac yn anelu at frechu 4,000 o ddisgyblion uwchradd sydd heb gael dau ddôs o’r MMR.

Mae 942 o bobol wedi dal yr haint hyd yma yn ardal Abertawe, a 65 o bobol yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y mwyafrif ohonyn nhw yn Llanelli.

“Gan fod Llanelli mor agos i ganolbwynt yr haint yn Abertawe bydd y rhaglen yn dechrau yn nwyrain Sir Gaerfyrddin ac yn cael ei chwblhau ar draws y tair sir ymhen pedair wythnos,” meddai Teresa Owen, cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd Hywel Dda.

Mae llythyron yn cael eu hanfon at rieni.

Mae clinig Sadwrn yn agor yn Llanelli am y tro cyntaf yfory, yng Nghlinig Elizabeth Williams, er mwyn brechu rhag y frech goch.