Llun: Sion England
Mae’r frigâd dân yn ceisio diffodd tân yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth brynhawn yma.
Mae adroddiadau fod holl staff ac ymwelwyr y Llyfrgell wedi gadael yr adeilad, sy’n gartref i drysorau llenyddol a chelfyddydol Cymru.
Mae mwg trwchus wedi cael ei weld yn codi o’r adeilad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol fod “pawb yn ddiogel” ac y bydd y Llyfrgell ar gau yfory (Dydd Sadwrn)
Nid yw’n sicr eto a fydd y Llyfrgell yn agor dydd Llun.
Lot o lyfrau
Mae miliynau o lyfrau yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â hen ysgrifau, archifau, lluniau a chopis o raglenni cynnar S4C a cherddoriaeth bop.
Cafodd y lle ei sefydlu yn 1907, a bu sawl estyniad i’r adeilad ar Allt Penglais dros y blynyddoedd.